Charlie Gard (Llun: Drwy law y teulu/PA)
Mae rhieni Charlie Gard wedi dod â’u brwydr gyfreithiol ynglŷn â chael triniaeth arbrofol i’w babi 11 mis oed, i ben.

Fe gyhoeddodd Chris Gard a Connie Yates eu penderfyniad wrth i farnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain baratoi i ystyried yr hyn roedd y cwpl yn ei alw’n dystiolaeth newydd.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran y cwpl, Grant Armstrong, bod “amser wedi dod i ben” a’u bod nhw wedi dod i benderfyniad yn dilyn yr adroddiadau meddygol a sganiau diweddaraf.

“Mae’n rhy hwyr i drin Charlie,” meddai.

Roedd y cwpl yn teimlo y byddai parhau a’u brwydr yn achosi poen i Charlie, ychwanegodd.

Mae’r cwpl yn bwriadu sefydlu cronfa gyda’r arian a oedd wedi cael ei gasglu ar gyfer triniaeth arbrofol iddo yn yr Unol Daleithiau. Maen nhw’n awyddus i wersi gael eu dysgu o’r achos, meddai Grant Armstrong.

Mae’r barnwr Mr Ustus Francis wedi rhoi teyrnged i Chris Gard a Connie Yates.

Mae Charlie Gard yn dioddef o gyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ei ymennydd. Roedd ei rieni eisiau iddo gael triniaeth arbrofol yn America ond roedd meddygon yn Ysbyty Great Ormond Street yn dadlau na fyddai’r driniaeth yn gwneud gwahaniaeth i’w gyflwr ac y dylai gael marw gydag urddas.