Mae rhaglen newydd sy’n mynd i’r afael â gordewdra plant yn cael ei lansio heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nod rhaglen ‘Pob plentyn Cymru’ yw darparu gwybodaeth a chyngor i rieni ynglŷn â sut i sicrhau bod eu plant yn cynnal pwysau iach.

Daw’r lansiad yn sgil cyhoeddiad arolwg newydd sydd yn datgelu nad yw rhieni bob amser yn cydnabod pan mae eu plentyn dros bwysau.

Yn ôl yr arolwg dim ond 4% o rieni plant pedwar i bump oed sydd yn derbyn bod eu plant yn ordew, er bod 26% o blant Cymru yn ordew mewn gwirionedd.

“Dechrau gorau posibl”

“Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau posibl mewn bywyd,” meddai Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Julie Bishop. “Os bydd plentyn yn treulio ei flynyddoedd cynnar yn iach ac yn hapus, mae’n fwy tebygol o dyfu’n oedolyn iach a hapus.”

“Efallai na fydd llawer o rieni yn sylweddoli bod eu plentyn dros bwysau, neu efallai nad ydynt yn ymwybodol bod hyn yn rhywbeth i’w gymryd o ddifrif. Pan fydd plant yn bwysau iach, maent yn teimlo’n well am eu hunain, ac maent yn ei chael yn haws i chwarae a dysgu.”

Bydd y wybodaeth a chyngor yn cael ei ddarparu am ddim ar wefan y rhaglen, www.pobplentyn.co.uk.