Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf ni carchardai’r Alban yn caniatau ysmygu.

Bwriad Gwasanaeth Carchar yr Alban (SPS) yw mynd i’r afael â’r “risg annerbyniol o uchel” sy’n wynebu iechyd carcharorion, staff ac ymwelwyr.

Daw’r cyhoeddiad fel rhan o adroddiad Prifysgol Glasgow i effaith ysmygu ail-law ar weithwyr yn y carchar, ac erbyn mis Tachwedd 2018 fe fydd ysmygu wedi’i wahardd yng ngharchardai’r Alban.

Roedd Prif Weithredwr yr SPS, Colin McConnell, yn cydnabod y byddai hynny’n “her sylweddol” wrth gyfeirio at ddata sy’n dangos fod bron tri chwarter (72%) o garcharorion yr Alban yn ysmygu.

“Mae’n ffaith mai’r unig ffordd i waredu â’r risg yw gwaredu ag ysmygu o’n carchardai,” ychwanegodd Colin McConnell.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi croesawu’r cyhoeddiad hefyd gan ychwanegu y byddai’n cyfrannu at eu huchelgais o greu “cenedl heb-dybaco” erbyn 2034.

Er hyn, mae grŵp dros hawliau ysmygwyr yn honni y gallai’r gwaharddiad gyfrannu at “amgylchedd llawn tensiwn” gan ddylanwadu pobol i droi at  “sylweddau anghyfreithlon.”