Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae dyn sy’n derfynol wael ac yn dioddef o glefyd motor niwron yn parhau gyda’i frwydr am yr hawl i gael cymorth i farw yn yr Uchel Lys.
Mae’r cyn-ddarlithydd Noel Conway, 67, o’r Amwythig, yn dod ag adolygiad barnwrol o’r gyfraith bresennol yn ymwneud a chymorth i farw.
Cafodd Noel Conway ddiagnosis o’r clefyd ym mis Tachwedd 2014 ac nid oes disgwyl iddo fyw am fwy na 12 mis arall.
Pan fydd ganddo lai na chwe mis i fyw ac a’r gallu i wneud y penderfyniad, ei ddymuniad yw cael cymorth i farw “gydag urddas.”
Mae eisoes wedi mynd a’i achos i’r Llys Apêl.
Mae ei gyfreithwyr yn gosod amodau llym a chamau diogelwch er mwyn amddiffyn pobl fregus rhag unrhyw gamdriniaeth o’r system.
Nid oes disgwyl dyfarniad tan yr hydref.