Bydd academi newydd fydd yn hyfforddi radiolegwyr yng Nghymru yn derbyn £34 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd yr Academi Delweddu Genedlaethol yn cael ei leoli ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn darparu safle i radiolegwyr ddysgu am sganiau meddygol.

Er mai radiolegwyr fydd yn cael ei hyfforddi yno i ddechrau, dros amser bydd yr academi yn agor ei ddrysau i sonograffwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

“Darparu’r gofal gorau”

“Mae radiolegwyr a’r rhai yn y gweithlu delweddu yn chwarae rôl o bwys wrth gefnogi staff meddygol a chlinigol gydag ymchwiliadau delweddu ac adroddiadau amserol, sy’n caniatáu i feddygon ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd gan yr academi newydd rôl bwysig wrth ganiatáu inni gynyddu nifer y radiolegwyr hyfforddedig yn GIG Cymru i sicrhau gweithlu cynaliadwy, o safon uchel at y dyfodol.”