Ddylai neb gael ei erlyn mewn achosion o erthylu, meddai cyfarfod blynyddol Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA).

Yn ystod y cynulliad yn Bournemouth heddiw, fe bleidleisiodd yr undeb o blaid galw am newid yn y gyfraith bresennol. Mae’n golygu bod y farn yn cael ei mabwysiadu gan yr undeb, ac yn byddan nhw’n bwrw iddi i lobio am newid yn y ddeddf.

Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn caniatáu erthyliadau os yw’r fam wedi bod yn feichiog am lai na 24 wythnos, ac os oes dau ddoctor yn cymeradwyo’r driniaeth.

Mae’r BMA am weld y gyfraith yn cael ei llacio ymhellach er mwyn sicrhau bod doctoriaid a menywod ddim yn wynebu’r bygythiad o gyfnod yng ngharchar.

“Trosedd ag eithriadau”

“Ar hyn o bryd mae erthyliad yn drosedd ag eithriadau,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Feddygol y BMA, Dr John Chisholm. “Yn dilyn y ddadl heddiw yn Bournemouth, mae mwyafrif y doctoriaid yn gytûn mai mater meddygol – ac nid mater troseddol – yw erthyliad.

“Mae’n rhaid i ni fod yn glir, nid yw hyn yn golygu dad-reoleiddio,” meddai John Chisholm wedyn. “Y cyfan y mae’r polisi newydd yn ei wneud yw cwestiynu os y dylai erthyliad fod yn droseddol. Nid yw’n ymdrin â phryd a sut y dylai’r gwasanaeth gael ei darparu.”