Llys Hawliau Dynol Ewrop, yn Strasbwrg (Llun: o wefan y llys)
Mae rhieni plentyn sy’n dioddef o gyflwr prin, yn aros i glywed dyfarniad gan Lys Hawliau Dynol Ewrop ynglŷn â mynediad at driniaeth yn yr Unol Daleithiau.

Mae Charlie Gard yn ddeg mis oed ac yn dioddef o gyflwr genetig prin sy’n achosi nam ar yr ymennydd ac mae’n parhau ar driniaeth cynnal bywyd yn Ysbyty Great Ormond Street, Llundain.

Mae ei rieni, Chris Gard a Connie Yates o Lundain wedi mynd â’u hachos at Lys Hawliau Dynol Ewrop ar ôl i farnwyr yn yr Uchel Lys ddyfarnu yn erbyn y driniaeth yn America. Mae meddygon yn Ysbyty Great Ormond Street yn dweud y dylai Charlie Gard gael yr hawl i farw gydag urddas.

“Cynorthwyo plant eraill”

Yn ogystal, mae’r teulu wedi llwyddo i godi £1.3 miliwn i dalu am driniaeth yn yr Unol Daleithiau drwy dudalen GoFundMe ar ôl dweud fod angen £1.2 miliwn arnyn nhw.

Ac wrth aros am ddyfarniad Llys Ewrop mae Connie Yates wedi dweud y byddan nhw’n rhoi’r arian i gynorthwyo plant eraill sy’n dioddef o’r cyflwr pe bai’r Llys yn eu gwrthod.

“Os na fydd Charlie yn cael y cyfle hwn fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr fod babanod a phlant diniwed eraill yn cael eu hachub,” meddai.

“Byddwn ni’n hoffi i rywfaint ohono fynd i ymchwil yn yr ysbyty sy’n trin Charlie a’r gweddill i fod ar gael i helpu teuluoedd i gael meddyginiaeth mae eu plant mor ddifrifol ei angen,” ychwanegodd.