Llun: PA
Mae 91% o leoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru wedi eu llenwi, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mewn pedwar ardal sef Ceredigion, Sir Benfro, gogledd orllewin Cymru a gogledd ddwyrain Cymru mae 100% o leoedd hyfforddi meddygon teulu wedi’u llenwi.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Iechyd (GIG) Cymru lansio ymgyrch ym mis Hydref 2016 i hyrwyddo Cymru fel lleoliad i ddoctoriaid gweithio, hyfforddi a byw.

Bellach mae 124 o’r 136 lleoedd hyfforddi yng Nghymru wedi eu llenwi, sydd yn gynnydd o gymharu â 2016 pan dim ond 75% o’r safleoedd oedd wedi’u llenwi.

“Wirioneddol falch”

“Dw i’n wirioneddol falch bod ein hymgyrch ‘Gwlad, Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw’ wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y Meddygon Teulu dan hyfforddiant sy’n dod i Gymru,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething.

“Dw i’n arbennig o falch bod ein cymelliadau wedi golygu bod yr holl leoedd hyfforddi wedi eu llenwi mewn rhai ardaloedd y bu’n anodd recriwtio iddynt yn y gorffennol.”