Y frech goch
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau fod achosion o’r frech goch wedi’u canfod mewn ysgol yng Nghasnewydd.

Ar hyn o bryd mae gan bedwar o bobol â chysylltiadau ag Ysgol Uwchradd Lliswerry y frech goch, ac mae rhieni wedi’u hysbysu, a sesiynau brechu’n cael eu cynnal.

Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni o bob cwr o Gymru i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o’r brechlyn MMR.

‘Heintus iawn’

“Er nad yw pedwar achos o’r frech goch yn ymddangos yn uchel, gwyddom y gallai plant eraill sy’n mynychu’r ysgol sydd heb gael eu brechu ddal a lledaenu’r frech goch yn hawdd,” meddai Heather Lewis, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae’r frech goch yn heintus iawn a’r unig ffordd i atal nifer fawr o achosion yw trwy frechu,” meddai.

“Rydym yn annog rhieni y mae eu plant heb dderbyn dau ddos o MMR i sicrhau eu bod yn siarad â’u meddyg teulu ar unwaith i drefnu cael y brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn.”

Symptomau

Mae symptomau’r frech goch sy’n cynnwys – gwres uchel, peswch, llygaid coch (llid yr amrannau), a brech goch neilltuol – gartref o’r ysgol.

Gall tua 1 mewn 5 o blant â’r frech goch gael cymhlethdodau difrifol fel heintiau’r glust, llid yr ysgyfaint neu lid yr ymennydd.

Mae un ym mhob 10 o blant â’r frech goch yn cael eu derbyn i’r ysbyty ac mewn achosion prin, gall fod yn angheuol.

Fel arfer, mae dos cyntaf o MMR yn cael ei roi i blant yn 12 mis oed, a’r ail yn dair oed a phedwar mis.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i gysylltu â’u meddyg teulu neu alw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 i hysbysu o’r symptomau cyn mynd i apwyntiad.