Mae peiriant therapi pelydrau proton cyntaf gwledydd Prydain wedi dod i Gasnewydd.

Dim ond dramor y bu’r peiriant ar gael tan nawr, ond mae’r peiriant 55 tunnell newydd yn rhan o ganolfan sy’n cael ei datblygu yn y de-ddwyrain.

Fe allai gymryd hyd at flwyddyn i osod y peiriant gwerth £17 miliwn yng Nghanolfan Ganser Rutherford, ac mae disgwyl iddo drin hyd at 500 o gleifion bob blwyddyn.

Mae’r therapi yn anfon pelydrau proton fel rhan o driniaeth radiotherapi, yn hytrach na defnyddio’r dull pelydr-X traddodiadol, a hynny er mwyn lleihau faint o niwed sy’n cael ei achosi i’r organau iach.

Mae’r ganolfan yng Nghasnewydd yn un o nifer sy’n cael eu datblygu yng ngwledydd Prydain.

‘Carreg filltir’

Yn ôl yr Athro Gordon McVie, sy’n bennaeth ar gwmni Proton Partners International, mae’r peiriant yn “garreg filltir i driniaeth canser yn y DU”.

“Rydym yn ymroi i drawsnewid gofal canser a dyna pam ein bod ni’n gosod y dechnoleg fwyaf datblygiedig sydd ar gael ym maes therapi proton.”

Mae’n rhagfynegi y bydd 10% o gleifion canser yn elwa o’r therapi drwy gael llai o sgil-effeithiau.

Bydd cleifion yng Nghanolfan Ganser Rutherford yn gallu cael y driniaeth newydd drwy yswiriant preifat, trwy dalu drostyn nhw eu hunain neu drwy’r Gwasanaeth Iechyd.