Mark Isherwood AC
Mae cylchlythyr gan un o’r Aelodau Cynulliad Ceidwadol wedi beirniadu’r gofal sydd ar gael i gleifion â chyflwr prin yng Nghymru.

Yn ei Ddatganiad Busnes yn y Senedd yr wythnos hon, galwodd Mark Isherwood, sy’n gwasanaethu ardal gogledd Cymru, am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ar sail erthygl yn nghylchlythyr Vasculitis UK.

Mae fasgwlitis yn gyflwr lle mae’r system imiwnedd yn ymosod ar lestri gwaed y corff, gan achosi iddyn nhw chwyddo a chulhau.

Ac mae’r erthygl yn gofyn ‘Beth sy’n bod ar Gymru?’ wrth feirniadu ymateb pobol sy’n gweithio ym maes iechyd yr ochr yma i Glawdd Offa.

Meddai Mark Isherwood: “Mae’r erthygl hon yn dweud ‘Mae gennym ni, yn Vasculitis UK, berthynas dda iawn â’r holl bobol broffesiynol sy’n arwain ar fasgwlitis yn Lloegr… Fodd bynnag, yng Nghymru, mae’n sefyllfa wahanol.

“Ar ôl cael diagnosis a chynllun triniaeth gan arbenigwr byd-eang yn Lloegr, mae’n ymddangos bod drwgdeimlad at gyngor yr arbenigwr “dros y ffin” a’i fod yn cael ei anwybyddu pan ydyn ni’n dychwelyd i Gymru.

“Mae problemau naturiol amrywiol yng Nghymru i bobol â chyflwr prin…. Mae’n ymddangos bod yna agwedd o’r ganrif ddiwethaf yng Nghymru ac mae’n ymddangos hefyd bod diwylliant o hierarchiaeth a chau o amgylch pobol.”

Dywed fod y ffaith fod y farn honno’n bodoli yng Nghymru’n dangos bod angen talu sylw i’r pryderon.

Ymateb

Wrth ymateb i Mark Isherwood, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt: “Dw i, ar hyd y blynyddoedd, wedi cyfarfod â grwpiau, fel y byddwch chithau yn fan hyn, a phobol broffesiynol sy’n gweithredu yn nhermau mynd i’r afael ag anghenion pobol â chyflwr prin.

“A dw i ddim yn adnabod y datganiad a gafodd ei wneud, ond dw i’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r modd yr ydyn ni’n gwneud cynnydd yn nhermau diwallu’r anghenion hynny.