Dydy ysbytai Cymru ddim wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiad seibr ar systemau cyfrifiadurol ysbytai yn Lloegr a’r Alban brynhawn ddoe.

Ond daeth cadarnhad na fyddan nhw’n gallu derbyn e-byst allanol am y tro wrth i’r sefyllfa gael ei monitro. Bydd modd i staff yng Nghymru anfon negeseuon allanol a derbyn ac anfon negeseuon mewnol.

Daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ar ôl yr ymosodiad sydd wedi effeithio ar ysbytai ar draws y byd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: “Ni fu unrhyw ddigwyddiadau hyd yma yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn deillio o’r ymosodiad meddalwedd pridwerth ar systemau’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a’r Alban.

“Rydyn ni, yn ddiweddar, wedi buddsoddi i uwchraddio TG i warchod systemau rheng flaen GIG Cymru a allai fod mewn perygl.

“Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno safonau cenedlaethol ar gyfer diogelwch TG ar gyfer holl feddygfeydd Cymru. Rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos.”

Ymchwiliad

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth oedd wedi achosi’r ymosodiad, gyda rhai’n awgrymu y gallai Llywodraeth Prydain a’r Gwasanaeth Iechyd fod wedi gwneud mwy i’w atal yng ngwledydd Prydain.

Mae disgwyl cryn oedi i driniaethau a llawdriniaethau dros y penwythnos, a’r pryder yw fod y systemau cyfrifiadurol mewn adrannau brys, meddygfeydd a gwasanaethau iechyd eraill wedi cael eu taro gan firws a gafodd ei ddatblygu yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r firws yn cloi cyfrifiaduron ac yn hawlio cryn dipyn o arian am eu datgloi.

Mae o leiaf 30 o sefydliadau iechyd wedi’u heffeithio, a gwasanaethau iechyd wedi’u heffeithio mewn 99 o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Rwsia.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cael eu beirniadu gan arbenigwyr ac academyddion am eu hymateb i’r digwyddiad, gyda rhai’n dweud bod ganddyn nhw gwestiynau mawr i’w hateb am ddiogelwch yng ngwledydd Prydain.

Effaith ar ysbytai

Wrth iddi ddod i’r amlwg ddydd Gwener pa mor eang oedd yr ymosodiad, cafodd ambiwlansys orchymyn i fynd i ysbytai gwahanol, a chafodd cleifion eu cynghori i gadw draw o rai adrannau brys.

Fe fu’n rhaid i staff ddefnyddio beiro a phapur ar gyfer cofnodion meddygol am gyfnod, a chafodd rhai systemau ffôn eu heffeithio.