Meicrograff yn dangos ysgyfaint gydag arwyddion o emffysema (Nephron CCA3.0)
Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi “mwy o sylw” i afiechydon yr ysgyfaint yng Nghymru o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Daw’r alwad yn sgil cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau sy’n dangos bod cyfradd marwolaethau ar gyfer afiechydon yr ysgyfaint wedi codi yn gynt na’r gyfradd ar gyfer afiechydon eraill.

Yn 2015 roedd 32.4 o bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru yn marw’n ddiangen o afiechyd ar yr ysgyfain, meddai’r adroddiad – cynnydd o 7.2 o gymharu â 2014.

“Darganfyddiadau Dychrynllyd”

“Dylai bod y darganfyddiadau dychrynllyd yma yn crisialu meddwl Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw adnewyddu eu Cynllun Cyflawni Iechyd Anadlu,” meddai Pennaeth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru, Joseph Carter.

“Mae iechyd yr ysgyfaint wedi cael ei esgeuluso am gyfnod rhy hir, ac mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Iechyd gymryd y cyfle yma i roi’r sylw a’r adnoddau sydd angen ar gyfer trin afiechydon yr ysgyfaint.”

Llywodraeth Cymru yn ymateb

“Rydym yn cydnabod effaith sylweddol clefydau anadlol fel Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint ac asthma,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Rydym yn arwain y ffordd yn y DU gyda’n cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer iechyd anadlol, sy’n cynnwys gwaith pwysig i wella diagnosis, triniaeth a chymorth i bobl â chlefydau anadlol.

“Mae data 2015 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar farwolaethau y gellid eu hosgoi yn tanlinellu’r angen i barhau i ganolbwyntio’n genedlaethol ar glefydau anadlol. Byddwn yn cydweithio gyda’r byrddau iechyd a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i ddiweddaru’r cynllun anadlol yn ddiweddarach eleni.”