Mae claf sy’n dioddef o anghenion iechyd “cymhleth” wedi gorfod aros mwy na thair blynedd a hanner mewn ysbyty er iddo gael cadarnhad ei fod yn ddigon iach i adael.
Roedd y claf, na ellir ei enwi, wedi treulio’i amser yn un o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl, anabledd dysgu a phroblemau iechyd corfforol.
Ac yn ôl Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, mae hyn yn “hollol gywilyddus,” wedi iddo wneud cais am wybodaeth am y nifer o ddyddiau gwely a gollwyd o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo gofal i gleifion.
Blocio gwelyau yn ‘gostus’
Mae’r llythyr gan Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, hefyd yn datgelu fod dau glaf arall yn ysbytai Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd a’r Fro wedi aros mwy na blwyddyn a hanner mewn ysbytai.
“Tra bod blocio gwelyau yn hynod gostus i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, mae’r gwir gost ar ansawdd bywyd y cleifion y mae’n effeithio,” meddai Darren Millar.
‘Lefel isaf ers 12 mlynedd’
Ond yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid ystyried y ffigurau hyn yn eu cyd-destun wrth iddyn nhw nodi fod yr oedi o ran trosglwyddo gofal i gleifion ar ei lefel isaf ers 12 mlynedd.
“Roedd gan y cleifion sy’n cael eu cyfeirio atyn nhw yn yr ohebiaeth yma anghenion cymhleth yn ymwneud â chyflyrau iechyd meddwl ac angen gwasanaethau hynod arbenigol…,” meddai’r llefarydd.
“Doedd yr un mewn gwelyau ysbytai aciwt.”
Dyddiau gwely a gollwyd
Mae’r rhestr isod yn dangos y nifer o ddyddiau gwely a gollwyd o ganlyniad i oedi mewn trosglwyddo gofal cleifion unigol mewn byrddau iechyd o Ionawr 2017:
- Hywel Dda– 1,338
- Abertawe Bro Morgannwg – 589
- Caerdydd a’r Fro – 583
- Betsi Cadwaladr – 330
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – 218
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – 162
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf – 135