Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynnu bod lleihad wedi bod yn y nifer o gwynion ynglyn â’r gwasanaeth i gleifion iechyd meddwl ers 2015, a bod y ffigwr gafodd ei ryddhau ddoe mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth “ddim yn adlewyrchu nifer y cwynion a gafodd eu cyfiawnhau.”

Mewn ymateb i golwg360 heddiw, mae’r bwrdd iechyd yn dweud bod lleihad wedi bod yn nifer y cwynion yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

“Ers i ni gael ein rhoi o dan fesurau arbennig yn 2015,” meddai llefarydd, “rydym wedi gweld lleihad yn nifer y cwynion sy’n cael eu gwneud ar draws ein gwasanaethau iechyd meddwl (9.6 y mis ar gyfartaledd yn 2015, 8 y mis ar gyfartaledd yn 2016).

“Mae’r data hefyd yn dangos nifer y cwynion a dderbyniwyd yn unig, ac nid nifer y cwynion a gafodd eu cyfiawnhau.

“Mae’r cwynion hyn yn ymdrin â’r ystod lawn o faterion, gan gynnwys trefniadau derbyn a throsglwyddo, ansawdd amgylchedd y ward, cyfathrebu, cyfrinachedd, yn ogystal â thriniaeth glinigol a phryderon ynghylch ymddygiad aflonyddgar neu ymosodol gan bobl eraill ar y wardiau.”

Mae’r bwrdd yn croesawu pobol i ddanfon eu cwynion fel eu bod yn medru “rhoi’r gofal gorau posibl”,  meddai’r llefarydd wedyn, ac yn dweud eu bod wedi datblygu strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl fydd yn cael ei gyflwyno y mis hwn.