(Llun Y Gwasanaeth Iechyd)
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu adroddiad sy’n cynnwys argymhellion i wella mynediad cleifion yng Nghymru at feddyginiaethau.

Ac mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau ei fod wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd Cymru i ddweud y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu erbyn mis Medi.

Mae’r adroddiad yn galw am addasu’r broses o Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) sydd â meini prawf penodol i ystyried a ddylai claf gael triniaeth nad sydd fel arfer yn cael ei gynnig.

‘Effaith gadarnhaol’

“Daeth yr adolygiad i’r casgliad y dylai penderfyniadau ynghylch mynediad at driniaeth i gleifion unigol gael eu seilio ar lefel y manteision clinigol disgwyliedig ac a yw’r driniaeth yn cynnig gwerth rhesymol am arian,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Mi fydd yn gwneud datganiad ar y mater yn y Senedd heddiw ac mae disgwyl iddo groesawu’r argymhellion eraill gan gynnwys peidio â lleihau’r nifer o baneli IPFR.

“Rwy’n credu y bydd argymhellion yr adroddiad hwn, o’u rhoi ar waith, yn cael effaith gadarnhaol ar y broses IPFR. Bydd hyn yn golygu bod y system yn haws ei deall ac yn llai tebygol o gael ei cham-ddefnyddio,” meddai.

‘Helpu mwy o gleifion’

Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r adroddiad gan alw am weithredu’r argymhellion yn llawn.

“Bydd newid y prawf ‘eithriadol’ annheg gyda phrawf ‘budd clinigol sylweddol’ yn helpu mwy o gleifion gael y driniaeth sydd ei angen arnynt,” meddai’r AC Rhun ap Iorwerth.

“Rydym hefyd yn falch bod yr adolygiad yn cytuno â Phlaid Cymru fod gormod o anghysondebau yn y gorffennol rhwng byrddau iechyd yng Nghymru, ac yn credu fod cynigion yr adolygiad ar gyfer Swyddogaeth Ansawdd Genedlaethol i fonitro paneli, ynghyd â dyletswydd i adrodd yn ôl ar anghysondebau, o gymorth i fynd i’r afael â hyn.

“Ni ddylai unrhyw glaf yng Nghymru fyth gael ei rhwystro rhag cael triniaeth a allai achub bywyd oherwydd biwrocratiaeth a phroses nad yw’n cael ei deall yn iawn,” ychwanegodd.