Bwyd ysbyty (Llun: Swyddfa Archwilio Cymru)
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi beirniadu’r oedi “cwbl annerbyniol” wrth weithredu argymhellion i wella maeth a hydradu mewn ysbytai  yng Nghymru.

Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus roedd “diffyg arweinyddiaeth ar y lefelau uchaf” wedi arwain at oedi wrth weithredu mesurau gafodd eu hamlinellu mewn adroddiad yn 2011.

Dywedodd y Pwyllgor fod dull Cymru gyfan yn “hanfodol o ran rhoi diet blasus a chytbwys o ran maeth i gleifion” i helpu i gyflymu eu hadferiad wedi salwch neu anaf, ond na allent nodi “un cyfarwyddwr ar fyrddau iechyd yng Nghymru oedd yn gyfrifol am sicrhau maeth a hydradu o ansawdd uchel i gleifion.”

Er bod argymhelliad i benodi nyrs arbenigol i sefydlu ‘Llwybr Maethol Cymru Gyfan’ roedd aelodau wedi’u “cythruddo” wrth glywed nad oes neb wedi ei benodi i’r swydd, ac mae’n bosib na fydd unrhyw un yn cael eu penodi i’r rôl am dair blynedd arall.

“Gwahaniaeth barn arolygon”

Yn ogystal mae sustem Technoleg Gwybodaeth i gefnogi’r diwygiadau heb ei sefydlu ac mae’r pwyllgor wedi codi pryderon ynglŷn ag arolygon boddhad cleifion oherwydd y “gwahaniaeth mewn barn” rhwng canlyniadau arolygon boddhad cleifion a gafodd eu cynhyrchu gan fyrddau iechyd Cymru, a phrofiadau mwy personol a oedd yn cael eu rhoi i ffrindiau, perthnasau ac Aelodau’r Cynulliad eu hunain.

Mae hyfforddiant staff hefyd yn “faes problematig” i lawer o fyrddau iechyd, meddai’r pwyllgor. Er bod hyfforddiant mewn maeth cleifion yn cael ei ystyried yn orfodol, roedd llawer o staff heb ymgymryd ag ef oherwydd diffyg cyfleoedd, pwysau amser neu flaenoriaethau eraill.

‘Elfen allweddol’

“Mae arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion yn elfen allweddol o ran sicrhau bod pobl yn cael gwellhad llwyr ac iach tra yn yr ysbyty,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay.

“Daethom o hyd i stori o ddiffyg amlwg ynghylch arweinyddiaeth, gweithgaredd disymud a chynnydd rhwystredig o araf mewn nifer o feysydd pwysig.

“Er bod rhai canlyniadau cadarnhaol, mae rhai elfennau allweddol o’r adroddiad gwreiddiol o 2011 yn dal heb gael eu rhoi ar waith.

“Mae’n gwbl annerbyniol y bydd bron i ddegawd wedi mynd heibio cyn i’r materion hyn gael eu datrys a bod cleifion yn derbyn y gwasanaethau prydau effeithlon ac effeithiol sy’n darparu elfennau sylfaenol bwyd blasus a maethlon a dŵr ar gyfer hydradu digonol.”

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor wedi gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

–          Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn gyhoeddus ganlyniadau arolygon cleifion Cymru gyfan yn y dyfodol mewn modd amserol;

–          Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu a rhoi ar waith y dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer cyflwyno hyfforddiant gan gynnwys ystyried e-ddysgu, a hyfforddiant grŵp;

–          Bod adolygiad o drefniadau cynllunio’r gweithlu o fewn Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cael ei wneud i sicrhau nad yw swyddi gwag neu fylchau o ran adnoddau yn y dyfodol yn achosi oedi sylweddol i ffrydiau gwaith allweddol; a

–          Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r targed ar gyfer lleihau gwastraff bwyd i herio’r byrddau iechyd i leihau gwastraff a gwneud y mwyaf o arbedion.