Mae Canolfan Gweithgarwch Corfforol gwerth £1 miliwn wedi ei hagor ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd yr adeilad yma yn canolbwyntio’n bennaf ar wyddorau’r corff ac mi fydd yn cynnig adnodd ychwanegol i fyfyrwyr ac ymchwilwyr yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff.

Mae’r ganolfan yn cynnwys dau labordy ffisioleg lle fydd ymchwil am y corff dynol yn cael ei chynnal, yn ogystal â labordy dysgu mawr newydd.

“Mae’r estyniad newydd hwn yn sicrhau’r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr drwy leoli’r ystafelloedd dysgu newydd â’r labordai profion ffisiolegol ac adsefydlu gyda’i gilydd,”  Meddai Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff, yr Athro Tim Woodman.

“Bydd y labordai newydd yn sicrhau bod yr Ysgol yn parhau i gynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer ymchwil ffisiolegol a datblygiad myfyrwyr.”