Y Farwnes Eluned Morgan (Llun: Cynulliad CCA2.0)
Mae’r Farwnes Eluned Morgan wedi galw am “sgwrs greadigol” cyn mynd ati i greu strategaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae £2 biliwn ychwanegol wedi cael ei neilltuo yn Lloegr, tra bod £200 miliwn yn mynd i gael ei wario ar y maes yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf, yn ôl Cyllideb ddiweddara’r Canghellor Philip Hammond.

Mae disgwyl i gost gofal cymdeithasol yng Nghymru godi o £1 biliwn i £2.3 biliwn erbyn 2030-31.

Dywedodd y Farwnes Morgan wrth raglen Sunday Politics Wales: “Dw i’n credu bod potensial yma i ni gyfuno datblygiad economaidd â’r gwasanaeth gofal yn yr ystyr y gallen ni ddechrau adeiladu cartrefi, er enghraifft, sy’n ddigonol ar gyfer dyfodol tymor hir i roi cartref i bobol oedrannus.

“Gallen ni adeiladu strategaeth economaidd y tu ôl i hynny.

“Dw i’n credu bod angen i ni gael sgwrs greadigol gyda’r cyhoedd ynghylch yr hyn maen nhw ei eisiau a sut maen nhw am fyw pan fyddan nhw’n hŷn.”

‘Rhy araf o lawer’

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd iechyd a gofal cymdeithasol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn “rhy araf o lawer” wrth ymateb i’r sefyllfa.

“Mae angen i ni feddwl yn arloesol sut ydyn ni’n mynd ati i ddatrys gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

“Ry’n ni’n gwybod fod y boblogaeth yn mynd yn hŷn, gadewch i ni ddathlu hynny. Ond bydd hynny’n anochel yn arwain at ffordd wahanol o wneud pethau.

“Mae enghreifftiau da iawn ar y cyfandir, yn yr Eidal er enghraifft, lle mae’r trydydd sector yn chwarae rhan gynyddol wrth gyflwyno gofal cymdeithasol a dyna’r math o gyfeiriad sydd angen i ni ei symud iddo.

“Allwn ni ddim parhau i wario arian yn y modd rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd. Mae pethau wedi bod yn rhy araf o lawer wrth gydnabod i le mae’n rhaid i ni fynd.

“Gobeithio y bydd adolygiad seneddol yn dechrau hynny ond rhaid i ni weld gweithredu nawr o ran arfer dda yng Nghymru, yn y DU ac Ewrop…”