Mae ystadegau newydd yn dangos bod nifer y bobol sydd yn ysmygu ar ei lefel isaf ers i gofnodion ddechrau.

Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol roedd 17.2% o oedolion yng ngwleydd Prydain yn ysmygu yn 2015, sef y lefel isaf ers i gofnodion ddechrau yn 1974.

Mae’r ffigurau o 2015 hefyd yn dangos bod y nifer fwyaf o bobol wedi rhoi’r gorau i ysmygu ers pedwar degawd ac mae’n debyg bod twf y garfan yma yn gyfrifol am y cwymp yn y nifer sy’n ysmygu.

Yn 2015, roedd 56.7% o oedolion ym Mhrydain oedd wedi ysmygu yn y gorffennol wedi rhoi’r gorau iddi – y canran uchaf ers 1974.

Cwymp Cymreig

Mae 18.1% o Gymry yn ysmygu ac mae’n debyg bod ysmygu yn arwain at 5,500 o farwolaethau yng Nghymru pob blwyddyn.

Ymysg gwledydd y Deyrnas Unedig, Cymru ynghyd â’r Alban yw’r gwledydd sydd wedi gweld y cwymp mwyaf sylweddol yn nifer yr ysmygwyr gyda chwymp o 5% rhwng 2010 a 2015.

Grŵp oedran ystod 18 i 24 blwydd oed sydd wedi gweld y cwymp mwyaf yn nifer y bobol sy’n ysmygu gyda’r cwymp yma ar ei amlycaf ymysg ieuenctid Cymru – cwymp o 8% ers 2010.