Ffordd Hafodyrynys, Crymlyn un o'r strydoedd mwya' llygredig yn y DU y tu allan i Lundain Llun: BBC Cymru/WIWO
Mae llygredd aer yn “argyfwng iechyd cyhoeddus” ac mae angen mynd i’r afael a’r broblem ar frys, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Dywedodd ICC wrth raglen BBC Cymru Week In Week Out bod llygredd aer yn fwy o broblem na goryfed a gordewdra ac mai ysmygu yw’r unig broblem sydd yn fwy o flaenoriaeth.

“Rydyn ni gyd yn gwybod mai ysmygu  yw, mwy na thebyg, prif flaenoriaeth iechyd y cyhoedd, ac mi fyddwn yn tybio bod llygredd awyr yn dod yn ail. Os ydych yn ystyried gordewdra, diffyg ymarfer corff ac alcohol, maen nhw’n dod wedyn,” meddai Huw Brunt o’r ICC.

Mae ffigurau’r ICC yn dangos bod llygredd awyr yn achosi tua 2,000 o farwolaethau yng Nghymru pob blwyddyn sef tua 6% o farwolaethau.

Wrth ymateb  i’r sylwadau mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i wella ansawdd aer ar draws Cymru ac maen nhw yn y broses o ystyried ymateb i ymgynghoriad ar leihau llygredd.

Mae llygredd aer yn cael ei achosi yn bennaf gan y cynnydd yn y defnydd o geir disel yn dilyn gostyngiad treth ceir disel yn 2001.

Stryd fwyaf llygredig

Mae’n debyg mai Ffordd Hafodyrynys yng Nghrymlyn, Sir Caerffili,  yw’r stryd fwyaf llygredig yn y DU tu allan i Lundain, ac mae lefel llygredd awyr yr ardal wedi codi uwchben lefelau cyfreithiol 57 gwaith y flwyddyn yma.

“Rydym yn derbyn bod problemau â safon yr aer yn y lleoliad yma oherwydd nifer o ffactorau allweddol. Rydym yn deall pryderon y preswylwyr ac rydym yn gweithio ar gynllun i wella safon yr aer â phobol leol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerffili.