Ysbyty Gwynedd ym Mangor
Mae cynllun gwerth tua £14 miliwn i wella adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr £13.89 miliwn yn cael ei wario ar wella gallu’r ysbyty i ymdopi â chynnydd achlysurol mewn galw am wasanaeth, a hefyd er mwyn gwella amgylchedd yr adran i gleifion a staff.

Y gobaith yw y bydd modd adeiladu uned asesu, tair ystafell dosbarthu cleifion, ardal adfywio cleifion a dwy ystafell driniaeth, a bydd yr arian hefyd yn cyfrannu at welliant cyfleusterau pediatreg yr ysbyty.

Bydd yr arian hefyd yn cyfrannu at adeiladu un pwynt mynediad at yr adran fydd yn golygu bod cleifion ac anafiadau brys yn cael eu trin yn yr un man ond yn medru cael eu danfon at adrannau arbenigol yn yr ysbyty yn gyflymach.

“Gweddnewid ein gwasanaeth”

“Mae’r adran yn rhy fach ar hyn o bryd, ac nid yw’n hollol addas ar gyfer bodloni gofynion ymarfer clinigol modern,” meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty.

“Bydd y prosiect pwysig hwn yn darparu safle hollol fodern ar gyfer y 52,000 o gleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob blwyddyn, a bydd yn ein helpu i weddnewid ein gwasanaethau gofal meddygol a gofal brys.”

Bydd y cyllid yn para tan 2020 ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth eleni.