Mae gwyddonwyr wedi darganfod cysylltiad rhwng crynodiad siwgr y gwaed a chlefyd Alzheimer.

Daeth ymchwil gan Brifysgol Caerfaddon i’r casgliad bod crynodiad gormodol o siwgr yn y gwaed yn difrodi ensym sydd yn delio â phroteinau yn yr ymennydd yn ystod cyfnod cynnar y salwch.

Mae lefelau uchel o siwgr yn y gwaed fel arfer yn gysylltiedig â chlefyd y siwgr, cyflwr rydym eisoes yn gwybod sydd yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefyd Alzheimer.

Gwnaeth gwyddonwyr ddarganfod bod siwgr y gwaed yn difrodi’r ensym MIF sydd yn chwarae rhôl wrth reoleiddio inswlin ac ymateb y system imiwnedd.

Mae’n ymddangos bod yr ensymau yma yn cael eu difrodi wrth i’r clefyd waethygu.

Cliw anfodol

“Rydym yn gwybod bod clefyd y siwgr yn dyblu risg person o ddatblygu dementia ond dydyn ni ddim yn siŵr ynglŷn â pham bod cysylltiad rhwng y cyflyrau. Mae’r astudiaeth yma yn cynnig cliw hanfodol,” meddai Rheolwr Ymchwil, Cymdeithas Cyflwr Alzheimer.

Dros y byd cyfan mae tua 50 miliwn o bobol yn dioddef o’r cyflwr ac mae disgwyl i’r ffigwr godi i 125 miliwn erbyn 2050.