Achosion yn ymwneud ag iechyd meddwl yw’r prif reswm pam y mae staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gofyn am ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Roedd y cais yn dangos fod gorbryder, straen, iselder ac anhwylderau seiciatryddol eraill wedi effeithio ar 7,946 o staff y gwasanaeth iechyd yn ystod 2015/16.
Roedd hyn yn gyfrifol am fwy na 345,000 o ddiwrnodau o absenoldeb o’r gwaith, gyda gweithwyr yn cymryd tua 46 diwrnod i ffwrdd, ar gyfartaledd.
Am hynny, mae Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system sy’n galluogi gweithwyr y gwasanaeth iechyd i gael triniaeth yn gynt.
‘Mynediad chwim’
“Drwy gyflwyno system mynediad chwim i driniaeth sy’n blaenoriaethu staff y Gwasanaeth Iechyd, gall byrddau iechyd wneud arbedion sylweddol, gan arwain at weithlu mwy cyson ac iachus, sy’n golygu gwell gofal i gleifion,” meddai Angela Burns.
“Dylai Llywodraeth Cymru gydnabod y manteision posib o fynediad chwim i system driniaeth ar draws ein gwasanaeth iechyd,” meddai gan gyfeirio fod system o’r fath ar waith mewn rhai o fyrddau ymddiriedolaeth GIG Lloegr.