Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin - mae parcio'n anhawster arall yno
Mae 779 yn rhagor o bobol wedi  gorfod aros mwy na 12 awr am wasanaeth mewn unedau brys  mewn ysbytai o gymharu â blwyddyn yn ôl, yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Er mai targed y Llywodraeth yw bod neb yn aros yn mwy na 12 awr, bu’n rhaid i 4,069 o bobol aros mwy na hynny ym mis Ionawr 2017 – cynnydd o bron chwarter.

O ran y prif darged arall, dim ond 79% o gleifion oedd wedi’u gweld o fewn 4 awr er mai targed y Llywodraeth yw 95%.

Pwysau anferthol

“Roedd gwasanaethau brys Gwasanaeth Iechyd Cymru dan bwysau anferthol ar adegau ym mis Ionawr,” meddai  llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gan ychwanegu eu bod wedi “gwneud yn hollol glir” i’r byrddau bod nifer y rhai sy’n aros mwy na 12 awr yn “hollol annerbyniol”.

“Er hyn, mae staff adrannau damweiniau ac achosion brys wedi sicrhau bod bron i wyth allan o ddeg o gleifion yn aros am lai na phedwar awr. Gwnaeth paratoadau gofalus ynghyd â £50 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ein cynorthwyo wrth i ni ddelio â chynnydd yn nifer y cleifion dros y gaeaf.”

Roedd nifer o resymau am y ffigurau, meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Angela Burns – y rheiny’n cynnwys prinder gwelyau, anawsterau wrth gael apwyntiad gyda meddyg teulu a chau adrannau mân anafiadau lleol.