Llun Silar CCA3.0
Mae grŵp o aelodau seneddol yn lansio maniffesto yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw i fynd i’r afael â “sgandal gudd” – methiant i roi cymorth iawn i blant sydd â rhieni alcoholig.

Mae ymchwil y grŵp pob-plaid wedi datgelu fod un ymhob pum plentyn yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda rhiant sy’n yfed gormod, ac mae hynny’n cyfateb i fwy na 2.5 miliwn o blant.

Maen nhw’n dweud bod diffyg strategaethau a phrinder arian i fynd i’r afael â’r broblem.

‘Torri cylch cas’

Bwriad yr ymgyrch yw “torri’r cylch” am fod plant sydd â rhieni alcoholig yn fwy tebyg o gael problemau yn eu bywydau hwythau.

Yn ôl yr adroddiad maen nhw …

  • Ddwywaith yn fwy tebyg o ddiodde’ anawsterau yn yr ysgol
  • Deirgwaith yn fwy tebygol o ystyried hunanladd
  • Bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau bwyta
  • Bedair gwaith yn fwy tebygol o droi at alcoholiaeth eu hunain.

Strategaeth a chyllid

Mae’r grŵp yn galw ar Lywodraeth Prydain i lunio strategaeth genedlaethol, cyllido cefnogaeth leol a theuluol, codi ymwybyddiaeth drwy addysg a hyfforddiant a chyfyngu hefyd ar hyrwyddo cynnyrch alcohol.

Mae’r ymgyrch yn cael cefnogaeth Archesgob Caergainyt, Justin Welby, sydd wedi siarad yn agored am gael ei fagu gydag un rhiant oedd yn alcoholig.

Roedd yn un o’r profiadau oedd yn aflonyddu mwya’ ar blant, meddai.