Llun pelydr X yn dangos canser yr ysgyfaint (James Heilmam CCA 3.0)
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau diagnosis canser cynharach yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi adroddiad blynyddol am yr afiechyd, fe addawodd Vaughan Gething y bydd yn gwella’r gwasanaeth yng Nghymru i fod “ymhlith y gorau yn Ewrop.”

Fe ddywedodd y byddai £15 milwn yn cael ei fuddsoddi eleni mewn gwella technoleg diagnosis, a hynny ar ben £10 miliwn sydd wedi ei wario ar beiriannau radiotherapi newydd.

“Y gorau yn Ewrop”

“Mae ein cynllun cyflawni diwygiedig ar gyfer canser yn egluro ein huchelgais i wella ein canlyniadau fel eu bod ymhlith y gorau yn Ewrop,” meddai Vaughan Gething.

“I wneud hyn rhaid inni allu adnabod mwy o gleifion yn y cyfnod cynnar fel bod y cleifion yn gallu elwa i’r eithaf ar y triniaethau sydd ar gael.

“Mae’r nifer sy’n goroesi canser yn parhau i gynyddu ond ry’n ni’n gwybod bod mwy o waith o’n blaenau.”

Y datblygiadau diweddara’

Roedd Vaughan Gething wedi amlinellu sut mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi ad-drefnu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod arwyddion canser yn cael eu gweld ynghynt.

  • Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi diwygio ymweliadau â meddygon er mwyn ceisio sicrhau diagnosis cyflymach ac mae amseroedd aros a theithio cleifion y Gogledd wedi gostwng yn sylweddol
  • Gwasanaethau diagnostig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw yn un o ddau sefydliad drwy’r Deyrnas Unedig gyfan sy’n defnyddio system sganio ddigidol arbennig.
  • Hefyd yn Abertawe Bro Morgannwg, mae cleifion sy’n cael canlyniad Pelydr X amheus ar y frest bellach yn cael sgan CT.