Sarah Rochira, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru
Mae set o adnoddau cymunedol wedi cael eu lansio er mwyn pontio rhwng y genhedlaeth iau a’r genhedlaeth hŷn.

Bwriad yr adnoddau, sydd yn rhan o gydweithio rhwng Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, a Chomisiynydd Pobol Hŷn Cymru, Sarah Rochira, yw cefnogi cymunedau ledled Cymru i sefydlu grwpiau lle gall pobol iau a hŷn ddod ynghyd.

Mae’r adnoddau’n cynnwys fideo lle mae pobol o’r ddwy genhedlaeth yn trafod manteision mwy o bontio rhwng cenedlaethau, cynllun gwersi i helpu plant i feddwl sut mae pontio rhwng cenedlaethau, ac adnoddau ar-lein sy’n cyflwyno gwybodaeth am fynd ati i sefydlu grwpiau cymunedol.

Bydd yr adnoddau’n cael eu lansio yn Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd, lle bydd sesiwn pontio’r cenedlaethau’n cael ei chynnal o dan arweiniad y ddau gomisiynydd.

Bydd y sesiwn yn cael ei darlledu’n fyw er mwyn i randdeiliaid o bob cwr o Gymru gymryd rhan mewn trafodaethau am ystrydebau oedran, manteision prosiectau pontio’r cenedlaethau a pha weithgareddau pontio’r cenedlaethau fyddai’n gallu cael eu cwblhau yn y dyfodol.

‘Rhwyg’

Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, mae “rhwyg” yn golygu bod y cenedlaethau wedi cael eu gosod “yn erbyn ei gilydd” dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hyn, meddai, yn creu “drwgdybiaeth a chamddealltwriaeth”.

Dywedodd mewn datganiad: “Realiti’r sefyllfa yw bod gan ein cenedlaethau iau a hŷn lawer iawn i’w gynnig i’w gilydd drwy rannu eu gwybodaeth a’u profiadau, dysgu gan y naill a’r llall a chefnogi ei gilydd.

“Rwyf wedi gweld fy hun y buddiannau cadarnhaol a ddaw i unigolion ac i’n cymunedau yn sgil prosiectau pontio’r cenedlaethau ac mae’n hanfodol fod hyd yn oed mwy o bobl iau a hŷn ledled Cymru yn cael cyfleoedd i dreulio amser gyda’i gilydd yn cyflawni gweithgareddau pontio’r cenedlaethau.

“Dyna pam mae Sally a minnau wedi gweithio mewn partneriaeth i ddwyn ynghyd amrywiaeth o adnoddau a fydd ar gael yn rhwydd i gefnogi’r rheini sydd yn ystyried sefydlu prosiect pontio’r cenedlaethau yn eu hysgol neu eu cymuned.”

Ystrydebau negyddol

Ychwanegodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland: “Gall ystrydebau negyddol greu rhwystrau gwirioneddol mewn cymunedau; gall grwpiau pontio’r cenedlaethau gynnig ffordd hwyliog a rhwydd o chwalu’r rhwystrau hyn.

“I ddisgyblion ysgol, mae hefyd yn gyfle gwych i hybu eu sgiliau cyfathrebu, dysgu doniau newydd a datblygu’n aelodau hyderus a gwerthfawr o gymdeithas – rhinweddau a fydd yn rhai buddiol iawn iddynt am weddill eu bywydau.

“Byddwn yn annog pob ysgol i archwilio’r posibilrwydd o gychwyn eu prosiectau pontio’r cenedlaethau eu hunain.

“Roedd eu heffaith gadarnhaol yn glir ar yr ysgolion y bu inni gwrdd â hwy wrth baratoi’r adnodd hwn.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu gweithio gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar yr adnodd hwn, a gobeithiaf y bydd yn ysbrydoliaeth i grwpiau o bobl hŷn ac iau ledled Cymru.”