Llun: PA
Fe allai gwasanaethau mamolaeth ar draws gwledydd Prydain fod mewn sefyllfa “argyfyngus” yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth i lu o staff ymddeol, mae arbenigwyr wedi rhybuddio.

Yn ôl adroddiad gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) mae mwy na thraean o fydwragedd yn nesáu at oedran ymddeol.

Mae angen i ragor o fydwragedd gael eu hyfforddi a dechrau gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd (GIG) fel “mater o frys”, meddai adroddiad yr RCM i wasanaethau mamolaeth.