Mae “nifer fawr” o lawdriniaethau canser yn cael eu canslo yn Lloegr y gaeaf hwn, yn ôl Coleg Brenhinol y Llawfeddygon.
Yn ôl y llywydd Clare Marx, dydy llawdriniaethau canser ddim yn cael eu gwarchod gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr erbyn hyn.
Dywedodd hi wrth yr Observer fod y drefn o warchod llawdriniaethau canser yn dirwyn i ben yn raddol.
“Mae adborth gan ein haelodau’n awgrymu ers dechrau mis Ionawr fod nifer fawr o ysbytai ledled y DU yn canslo llawdriniaethau canser.
“Mae’n gynyddol amlwg nad yw’r un rhan o’r system ac nad yw’r un claf yn cael ei warchod rhag y pwysau mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei wynebu.”
Mae cadeirydd Pwyllgor Dethol Iechyd San Steffan, Dr Sarah Wollaston wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “stwff eithaf llwm” ac o feio meddygon teulu am y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
Daw ei sylwadau ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May fynegi pryder am oriau agor meddygfeydd.
‘Trafodaeth onest’
Mae hi’n galw am “drafodaeth onest” am y sefyllfa, gan ddweud bod “y cyhoedd a staff y Gwasanaeth Iechyd yn haeddu gwell na chreu bwch dihangol”.
“Mae angen dechrau gyda thrafodaeth onest am y pwysau yn y cefndir,” meddai hi ar ei thudalen Twitter.
Yn ddiweddar, mae 40% o ysbytai yn Lloegr wedi wynebu argyfwng yn ystod wythnos gyntaf 2017, ac mae’r Groes Goch wedi dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn “wynebu argyfwng”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr eu bod nhw’n “gwneud popeth o fewn eu gallu” i helpu cleifion.