Feirws y ffliw (llun Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae nifer y bobol sydd â’r ffliw yng Nghymru wedi cynyddu’n aruthrol dros y pythefnos diwetha’, gyda mwy o bobol sy’n dioddef yn gorfod mynd i’r ysbyty neu dderbyn gofal dwys.

Mae’r cynnydd wedi arwain at alwad newydd gan swyddogion iechyd i annog pobol hŷn, mamau beichiog, plant ifanc a phobol fregus eraill i fynd am frechiad i’w hamddiffyn.

O 195 o achosion a oedd yn ddigon drwg i olygu triniaeth ysbyty, fe fu’n rhaid i 25 o gleifion y ffliw gael eu trin mewn unedau gofal dwys dros y pythefnos diwetha’.

Lledu ar draws Cymru

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r ffliw sy’n lledu ar draws Cymru ar hyn o bryd yn debygol o effeithio’n fwy ar yr henoed, ond mae adroddiadau bod mwy o bobol iau wedi cael eu heffeithio gan symptomau hefyd.

Er bod y corff yn annog pobol i gael eu brechu, maen nhw’n dweud bod y rhaglen frechu ysgolion ar gyfer plant pedair a saith oed wedi dod i ben a bod cyflenwad y brechlyn i blant rhwng dwy a thair oed yn brin.

“Mae ffliw bellach ar gynnydd yng Nghymru. Dylai rheiny mewn grwpiau risg fod wedi eu brechu erbyn hyn, ond dydy hi ddim yn rhy hwyr i gael eich amddiffyn os nad ydych wedi gwneud eisoes,” meddai Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y ffliw i bara am gyfnod eto

Mae disgwyl i feirws y ffliw aros yn ei gryfder yng Nghymru am rhwng chwech ac wyth wythnos, gyda lefelau is o’r afiechyd yn parhau am gyfnod hirrach.

Y cyngor i’r rhan fwyaf o bobol sydd ddim mewn peryg ac sydd â’r ffliw yw i beidio ymweld â’r meddyg, gan fod y Gwasanaeth Iechyd dan bwysau mawr yr adeg hyn o’r flwyddyn.