O wefan Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod honiadau meddyg amlwg – a’r Blaid Geidwadol – fod gofal brys yng Nghymru mewn “argyfwng”.

Maen nhw’n dweud bod y “mwyafrif llethol” o gleifion yn parhau i dderbyn gofal gorau posib er gwaetha’ pwysau cynyddol yr wythnosau diwetha’.

Ond mae’r sefyllfa yng Nghymru “cynddrwg, os nad gwaeth” na’r sefyllfa yn Lloegr, meddai Robin Roop, Dirprwy Lywydd Coleg Breninol Meddygaeth Frys yng Nghymru.

Wrth i adrannau brys wynebu mwy nag erioed o alw roedd safonau cyflymder triniaeth yn gostwng, roedd wardiau’n rhy llawn ac roedd rhwystrau rhag gollwng cleifion o’r ysbytai wedyn.

O ganlyniad, meddai wrth ITV Cymru, roedd “diogelwch cleifion” mewn peryg.

‘Mwy o farwolaethau’

Roedd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bachu ar ei sylwadau hefyd gan ddweud bod mwy o farwolaethau gaeaf ychwanegol yma nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr.

Ddiwedd y llynedd, roedd Robin Roop wedi croesawu adroddiad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad yn tynnu sylw at broblemau adrannau brys.

Bryd hynny, roedd wedi canmol y Llywodraeth am roi £50 miliwn ychwanegol at ofal brys ond wedi rhybuddio hefyd pa mor fregus oedd y gwasanaeth.

“Does dim mwy o angen wedi bod erioed am fuddsoddi ehachach mewn gofal brys yn ogystal ag mewn gofal meddygon teulu a gofal cymdeithasol,” meddai.

Mae’r Coleg wedi cefnogi galwad am gael nifer o wasanaethau, gan gynnwys gofal meddygon teulu fin nos ac ar benwythnos, ar safleoedd adrannau brys.