Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei bod yn agor cronfa i sicrhau mynediad cyflym at feddyginiaethau newydd

Ers mis Ebrill diwethaf, mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a’r Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi argymell 55 o feddyginiaethau newydd.

Mae’r rhain yn ymwneud â chlefydau fel canser, epilepsi, clefyd y galon, cryd y cymalau a HIV.

Ar gael o fewn deufis

Mae’r gronfa’n golygu y bydd £80m dros dymor y llywodraeth yn mynd at sicrhau mynediad at feddyginiaethau newydd.

Bydd rhaid i bob bwrdd iechyd sicrhau bod y meddyginiaethau newydd ar gael o fewn deufis i ddyddiad cyhoeddi’r canllawiau terfynol.

Bydd y gronfa’n darparu £16 miliwn o gymorth ychwanegol yn flynyddol i helpu byrddau iechyd i gyflymu mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf, gyda £12 miliwn yn cael ei ryddhau’n syth i’r byrddau iechyd.

Gwaredu ag ‘ansicrwydd ynghylch cyllid’

“Mae meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu canfod, eu datblygu a’u profi bron yn wythnosol, gan gynnig gobaith am iachâd neu well ansawdd bywyd i bobol ag amrywiol glefydau,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael gwared â’r ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer triniaethau newydd yn y dyfodol, ac yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i baratoi cynlluniau addas i gyflwyno meddyginiaethau newydd.”