Llun: Gwefan Cymdeithas Alzheimer's
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun i wella gofal dementia yng Nghymru wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Rhai o argymhellion y cynllun yw bod hawl gan bobol sydd newydd gael diagnosis o ddementia i gael gofal unigol a bod gofal yn cael ei deilwra i’r unigolyn a’i ofalwyr.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd Vaughan Gething yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar Ddementia, 2017-2022 yng Nghwrt Oldwell, Caerdydd – sy’n cynnig gwasanaeth dydd arbenigol ar gyfer pobol â dementia.

Prif achos marwolaethau

Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobol yn byw â dementia yng Nghymru, gyda’r cyflwr yn cael ei ystyried fel y prif achos marwolaethau yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn.

Mae tua £1.4 biliwn yn cael ei wario ar ofal dementia yng Nghymru bob blwyddyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: “Ni fydd gan unrhyw ddau unigolyn â dementia, neu’r rhai sy’n eu cefnogi, yr un anghenion â’i gilydd yn union. Ac eto fe wyddom fod dementia yn un o’r materion pwysicaf o ran iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ein hwynebu.

“Rydym wedi gweithio’n agos â grwpiau eiriolaeth a phobl sydd â dementia i ddatblygu’r cynllun gweithredu strategol hwn ac rydym yn agor ymgynghoriad ar y cynllun heddiw.

“Mae’n edrych ar yr holl ffyrdd yr ydym yn gallu effeithio ar brofiad pobl sy’n byw gyda dementia: o atal a hybu iechyd; i fyw mor iach â phosibl ac mor hir â phosibl â dementia; i gefnogi ymchwil. Gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb yn ymateb i’n hymgynghoriad ac yn rhoi eu barn.”