Mae buddsoddiad o £10m gan Lywodraeth Cymru yng nghronfa gofal cymdeithasol yn “amlygu annigonolrwydd” y gyllideb wreiddiol, yn ôl y Ceidwadwyr.

Nod y buddsoddiad, meddai Llywodraeth Cymru, yw helpu talu costau ychwanegol ddaw yn dilyn cyflwyniad y cyflog byw cenedlaethol.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei ychwanegu i’r £25m gafodd ei gyhoeddi ar gyfer 2017 i 2018 ym mis Hydref.

“Mae hyn yn amlygu annigonolrwydd cyllideb wreiddiol Llywodraeth Cymru oedd braidd yn ymateb â’r cynnydd yn y cyflog byw,” meddai Ysgrifennydd Gofal Cymdeithasol yr wrthblaid, Suzy Davies.

“Wrth gwrs, nid ariannu pellach yw’r unig ateb i broblemau gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru; mae ymatebion arloesol i bwysau cynyddol ar wasanaethau yn allweddol ar gyfer cynaladwyedd hir dymor.”