Mae awdurdodau Ffrengig wedi dechrau difa hwyaid yn ne orllewin y wlad er mwyn atal lledaeniad ffliw adar.

Dechreuodd yr ymgyrch heddiw mewn prif ardal cynhyrchu foie gras  y wlad lle nid yw’r firws H5N8 wedi sefydlogi.

Mae’r firws wedi bod yn cylchredeg o amgylch Ewrop a bellach mae dau achos o’r ffliw wedi eu darganfod yng Nghymru, un yn Llanelli ar Ragfyr 22 ac un ym Mhontyberem Ionawr 3.

Mae 89 achos o ffliw adar wedi bod yn Ffrainc ers Rhagfyr blwyddyn ddiwethaf ac mae disgwyl i’r difa bara tan Ionawr 20.

Yn ôl Gweinyddiaeth Amaethyddiaeth mae lledaeniad cyflym y firws yn cyfiawnhau’r difa ac fe fydd iawndal yn cael ei dalu i ffermwyr caiff eu heffeithio.