Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r ddeddf rhoi organau ddod i rym yng Nghymru.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae 39 o organau wedi cael eu trawsblannu i bobol oedd angen organau newydd drwy gydsyniad tybiedig y cleifion eraill.

Mae Cymru’n parhau yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i weithredu’r system o optio allan wrth roi organau.

‘Deddfwriaeth arloesol’ 

“Mae rhoi organau yn weithred hael tu hwnt ac yn sgil y ddeddfwriaeth flaengar hon, mae mwy o organau ar gael i’r rhai sydd dirfawr angen trawsblaniad,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Flwyddyn ar ôl dechrau’r ddeddfwriaeth arloesol hon, hoffwn i ddiolch i’r holl roddwyr, ac annog pobol sydd heb drafod eu dymuniadau rhoi organau eto i gynnal y sgwrs honno gyda’u hanwyliaid.”

Cydsyniad tybiedig

Mae’r ddeddf yn golygu bod pobol 18 oed neu’n hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na blwyddyn, ac sy’n marw yng Nghymru, yn cael eu hystyried yn awtomatig i roi organau – oni bai eu bod nhw wedi optio allan.

Mae’n cael ei alw’n gydsyniad tybiedig.

Cyn cyflwyno’r ddeddf, bu cynnydd yn nifer y trawsblaniadau organau yng Nghymru o 120 rhwng 2013 a 2014 i 160 rhwng 2015 a 2016.