Llun: Gwefan Cymdeithas Alzheimer's
Dementia sydd bellach yn cael ei ystyried fel prif achos marwolaethau yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ymchwil newydd.
Am y tro cyntaf, mae’r cyflwr wedi codi uwchlaw afiechydon y galon yn nhermau marwolaethau – a hynny oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio a gwell diagnosis o’r cyflwr, yn ôl gwyddonwyr.
O’r 33,198 o farwolaethau yng Nghymru yn 2015, bu i 3,374 (dros 10%) farw o ganlyniad i ddementia, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd 2,289 o’r cleifion hynny yn ferched ac yn 80 oed neu hŷn. Canser y fron oedd y prif achos marwolaeth ar gyfer merched 35-49 oed.
Niwed
Mae Dementia yn gallu arwain at anghofio a thrafferthion gyda meddwl yn annibynnol. Caiff ei achosi os yw’r ymennydd yn cael ei niweidio gan afiechydon fel Alzheimer’s neu strôc.
Dangosodd y ffigyrau bod cyfradd marwolaethau o achos dementia wedi dyblu yng Nghymru a Lloegr tros y bum mlynedd ddiwethaf.
Gyda gwell diagnosis a gofal ar gyfer cleifion sy’n dioddef o afiechydon fel clefyd y galon ischaemig neu ganser yr ysgyfaint, mae cyfradd y marwolaethau wedi disgyn ers 2011.
Dywedodd Hilary Evans, prif weithredwr Ymchwil Alzheimer’s: “Gyda mwy a mwy o bobol yn byw a dementia, rydym angen triniaethau sy’n medru atal neu arafu’r clefyd brawychus hwn ar frys.
“Mae’r adroddiad heddiw yn dangos y potensial sydd gan ymchwil meddygol i wneud argraff bositif ar iechyd y genedl”.