Llun: PA
Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid o £18 miliwn ar gyfer adeiladu canolfan gofal dwys newydd i fabis  yng ngogledd Cymru.

Bydd yr uned yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn gofalu am fabanod sâl a rhai sydd wedi eu geni’n gynnar.

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau fis nesaf ac mae disgwyl i’r ganolfan newydd agor yn 2018.

Meddai Vaughan Gething y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £16.050 miliwn yn y prosiect ar ben yr £1.869 miliwn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi.

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ystyried ad-drefnu’r gwasanaethau mamolaeth, a fyddai wedi israddio’r gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd, gan olygu y byddai’n rhaid i ferched beichiog â chymhlethdodau deithio i Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ond, fe fu ymateb chwyrn i’r cynlluniau hyn ac fe benderfynodd y bwrdd iechyd wneud tro pedol.

‘Gofal o’r safon uchaf’

Dywedodd Vaughan Gething: “Bydd y Ganolfan isranbarthol newydd ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn darparu gofal o’r safon uchaf a’r canlyniadau clinigol gorau i famau a’u babanod ledled y gogledd, gan ganoli gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu cyngor arbenigol gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a argymhellodd y dylai’r bwrdd iechyd gynllunio i ddarparu gofal dwys i’r newydd-anedig mewn un safle canolog yn y rhanbarth.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld cynnydd y prosiect hwn a datblygiad yr uned newydd”.