Pauline Cafferkey (Llun: PA)
Mae’n debyg bod nyrs o’r Alban, a gafodd ei heintio â chlefyd Ebola tra’n gweithio yn Sierra Leone yn 2014, wedi cael ei chludo i’r ysbyty yng Nglasgow gan yr heddlu.

Fe wnaeth Pauline Cafferkey deithio i orllewin Affrica i wirfoddoli gydag elusen Achub y Plant, ond fe aeth y nyrs yn sâl ei hun yn fuan ar ôl iddi ddychwelyd i Brydain ar ddiwedd 2014.

Cafodd driniaeth yn yr ysbyty yn Llundain, cyn cael ei rhyddhau ym mis Ionawr 2015 gyda meddygon yn dweud eu bod wedi dod dros y salwch ac nad oedd perygl i rywun arall ddal yr haint oddi wrthi.

Fodd bynnag, mae wedi gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty dwywaith, unwaith ym mis Hydref 2015 a’r tro arall ym mis Chwefror 2016, ar ôl dioddef o gymhlethdodau difrifol sy’n gysylltiedig â’r afiechyd.