Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi y bydd £11.33m yn cael ei fuddsoddi mewn offer a gwasanaethau technoleg gwybodaeth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan fyrddau iechyd a sefydliadau iechyd eraill i brynu offer newydd i gryfhau systemau fel eu bod yn gallu gwrthsefyll ymosodiad seiber ac i wella seilwaith wrth gefn yn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething y bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng yr holl fyrddau iechyd a sawl un o sefydliadau eraill y GIG, gan gynnwys Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Yn ogystal, bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn arian er mwyn rhoi hwb pellach i’r dasg o gyflwyno System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru a fydd yn arwain at rannu gwybodaeth mewn modd diogel.

Bydd hefyd yn help i ddarparu gwell gofal a chymorth drwy gysylltu gwasanaethau, gan gynnwys gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl, nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau i bobl hŷn.

Meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: “Bydd yr arian hwn yn golygu bod sefydliadau’r GIG yn gallu prynu cyfrifiaduron a gliniaduron newydd, gwella cysylltedd WIFi a buddsoddi mewn gweinyddion, systemau storio a gwell systemau wrth gefn.

“Bydd systemau technoleg gwybodaeth mwy effeithlon a mwy dibynadwy yn helpu pob elfen o’r GIG i weithio’n fwy effeithiol ac yn fwy hyblyg. Bydd hyn hefyd yn helpu i wella’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i gleifion.”