Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chwrdd â’u targed amseroedd aros cancr.

Ac mae Plaid Cymru wedi mynd cam ymhellach trwy ddweud nad yw llywodraeth Lafur Bae Caerdydd “erioed” wedi cyrraedd y targedau a osodwyd.

“Unwaith eto, mae’r llywodraeth Lafur wedi methu eu targed ar ofal cancr,” meddai Rhun ap Iorwerth, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal.

“Dros dair blynedd yn ôl, addawodd y Prif Weinidog fod y targed ar fin ei gyrraedd, ac ers hynny, dirywio wnaeth perfformiad, ac nid oes unrhyw arwyddion y cyrhaeddir y targed fyth. Mae angen i bobl yr amheuir sy’n dioddef o gancr gael profion ynghynt a’u trin ynghynt os ydym am gynyddu cyfraddau goroesi. Fe ddylem o leiaf fod yn cyrraedd y cyfartaledd Ewropeaidd.

“Dyna pam yr ymrwymodd Plaid Cymru yn eu maniffesto i sicrhau fod cleifion yn cael diagnosis neu wybodaeth nad yw’r clefyd arnynt ymhen y 28 diwrnod a argymhellir, ac yr ydym wedi ymrwymo i weithredu argymhellion y tasglu canser annibynnol.

“Gwaetha’r modd, dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydynt yn cytuno â’r gweithwyr clinigol a’u bod yn credu na fyddai targed o’r fath o help – all rhywun ond dyfalu mai’r rheswm dros hyn yw yw na allodd y llywodraeth gyrraedd cymaint o’u targedau o’r blaen.”