E.coli (Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae plentyn wedi marw o E.coli yn dilyn achosion o’r salwch yn yr Alban, meddai swyddogion iechyd.

Roedd yr achosion yn gysylltiedig â math o gaws glas.

Mae tîm, sydd wedi’i arwain gan Health Protection Scotland, wedi bod yn ymchwilio i achosion o E.coli 0157 sydd wedi effeithio 20 o bobl.

Daeth i’r casgliad bod y bobl wedi bwyta caws glas Dunsyre Blue, sy’n cael ei gynhyrchu gan gwmni Errington Cheese yn Swydd Lanark, cyn iddyn nhw gael eu taro’n wael tua diwedd mis Gorffennaf.

Dywedodd y cadeirydd Dr Alison Smith-Palmer eu bod yn estyn eu “cydymdeimlad dwysaf i deulu’r plentyn” fu farw.

Nid oes unrhyw achosion newydd o’r salwch wedi bod ers diwedd mis Gorffennaf.

Cafodd cyfanswm o 11 o’r rhai gafodd eu taro’n wael driniaeth yn yr ysbyty.