Llun: PA
Fe fydd meddygon iau yn cynnal streiciau dros gyfnod o bum diwrnod ynglŷn â chytundebau newydd dadleuol, meddai arweinwyr meddygon.

Fe fydd y streiciau’n cael eu cynnal rhwng 8yb a 5yp am bum diwrnod rhwng dydd Llun, 12 Medi a dydd Gwener, 16 Medi, meddai Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA).

Mae disgwyl i ddyddiadau eraill gael eu cadarnhau ar gyfer gweithredu pellach, meddai llefarydd ar ran y BMA.

Mae’r Adran Iechyd wedi cyhuddo’r BMA o “chwarae gwleidyddiaeth mewn ffordd a fydd yn hynod o niweidiol i gleifion bregus.”

Ond mae’r BMA yn dadlau bod “dim dewis” gan feddygon iau yn dilyn methiant ymdrechion i ddod i gytuno â thelerau’r cytundeb newydd.

Mae chwe streic eisoes wedi cael eu cynnal yn Lloegr, gan achosi trafferthion i gannoedd ar filoedd o gleifion wrth i apwyntiadau a llawdriniaethau gael eu canslo.

Ym mis Mai roedd yn ymddangos bod y BMA ac arweinwyr iechyd wedi dod i gytundeb ond ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n gorfodi’r cytundeb newydd ar ôl i feddygon iau a myfyrwyr meddygol wrthod y cytundeb.

Mae’r BMA wedi dweud y bydd yn dod a’r streiciau i ben os yw’r Llywodraeth yn cytuno i beidio gorfodi’r cytundeb ar feddygon iau.