(llun: PA)
Mae angen treth newydd i ariannu’r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol, yn ôl cyn-weinidog iechyd Ceidwadol sydd hefyd yn feddyg.

Dywed Dr Dan Poulter fod ei brofiad o weithio mewn ysbytai wedi ei argyhoeddi fod angen cynllun hirdymor i sicrhau arian digonol.

“Dw i’n aml yn gweld pobl sy’n iawn yn feddygol i fynd adref ond sy’n gorfod aros yn yr ysbyty oherwydd anawsterau wrth drefnu eu pecyn gofal cymdeithasol neu oherwydd diffyg tai addas,” meddai.

“Ni ellir darparu gofal iechyd da heb ofal cymdeithasol sydd wedi ei ariannu’n iawn.

“Dw i’n credu bod treth iechyd a gofal – i’w gyflwyno trwy godi yswiriant gwladol efallai – yn cynnig un o’r ffordd symlaf ymlaen.”

Ei ddadl yw y byddai hyn yn sicrhau ffrwd gyson o incwm.

“Byddai cysylltu incwm trethi â gwariant ar iechyd a gofal yn rhoi cyfle i bobl weld sut mae eu harian yn cael ei wario,” meddai.

“Byddai hefyd yn galluogi trafodaeth synhwyrol ynghylch pa lefel addas o drethiant sydd ei angen i sicrhau setliad ariannu cynaliadwy i’n Gwasanaeth Iechyd a system gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.”