Vaughan Gething
Mae llai o bobol yn marw yng Nghymru o glefydau cardiofasgwlaidd fel trawiad ar y galon, yn ôl adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.

Dyma’r trydydd adroddiad o’i fath gan y Llywodraeth ar glefyd y galon, ac mae’n amlygu bod llai yn dioddef o glefyd y galon a mwy yn cael eu trin yn gynt ar gyfer y cyflyrau.

Esboniodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, fod 180 yn fwy o gleifion yng Nghymru wedi cael triniaeth adsefydlu gardiaidd yn 2014-15 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

‘Mwy yn cael eu trin’

 

“Dyma adroddiad cadarnhaol sy’n dangos y cynnydd sylweddol rydyn ni’n ei wneud wrth drin clefyd y galon ac i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n dioddef o broblemau cardiofasgwlaidd,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd.

Dywedodd ei fod am gydnabod gwaith y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, hosbisau, elusennau, gofalwyr a theuluoedd wrth roi cymorth i gleifion sydd â chlefyd y galon.

“Mae’r gostyngiad cyson yn nifer y bobol sy’n marw o glefyd cardiofasgwlaidd, ynghyd â’r ffaith bod llai o bobol yn dioddef o glefyd y galon yn ganlyniad yr ydyn ni’n falch ohono,” meddai wedyn.

Er bod yr adroddiad yn nodi bod llai yn marw o’r cyflyrau, mae ffigurau newydd gan Sefydliad y Galon yn dangos cynnydd yn nifer y bobol sy’n cael triniaeth gardiofasgwlaidd ar draws y DU.

Mae’r ffigurau’n amlygu bod 1.69 miliwn o bobol wedi’u cyfeirio at ysbytai ar draws y DU yn y flwyddyn 2013-14 yn ymwneud â phroblemau cardiofasgwlaidd.