Mae adroddiad gan Gymdeithas MS Cymru yn honni bod Cymru ‘ar ei hôl hi’ o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig o ran sicrhau mynediad cleifion at driniaethau.

Ac mae Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i golwg360, wedi cydnabod fod hynny’n wir.

Yn ôl yr arolwg, mae 49% o bobol yng Nghymru sydd ag MS yn manteisio ar driniaeth Therapïau Addasu Clefydau (DMT).

Mae’r Gymdeithas yn amlygu fod hynny’n gynnydd o 30% ers 2013 – ond maent yn nodi fod y ffigwr y tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig lle mae 56% yn manteisio ar driniaethau, 57% yn yr Alban a 77% yng Ngogledd Iwerddon.

Am hynny, mae’r Gymdeithas yn galw am gamau gweithredu i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn gallu cael triniaeth gywir, ar yr adeg gywir, lle bynnag maent yn byw yng Nghymru.

‘Tynnu sylw’r byrddau iechyd’

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “rydym yn croesawu’r adborth gan gleifion ar ansawdd y gwasanaethau maen nhw’n ei dderbyn ac rydym yn falch i weld rhai gwelliannau, fel gwell mynediad at Therapïau Addasu Clefydau ac at niwrolegwyr.

“Yn amlwg mae yna rai ardaloedd lle mae angen mwy o welliannau ac fe fyddwn yn gofyn i Gadeirydd Grŵp Gweithredu Clefydau Niwrolegol i dynnu sylw’r byrddau iechyd at yr adroddiad hwn fel y gallant ei ystyried fel rhan o’i gwasanaeth cynllunio,” meddai.

“Mae nifer o’r argymhellion yn cefnogi gweithredoedd sydd eisoes wedi’u cynnwys yn y cynllun amodau niwrolegol,” esboniodd y llefarydd gan ddweud fod y grŵp gweithredu yn edrych ar adnewyddu’r cynllun ar hyn o bryd.