Cael digon o haul, mewn modd cyfrifol, yw’r brif ffordd o gael Fitamin D
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion arbenigwyr sy’n dweud y dylai pawb dros flwydd oed gael 10 microgram o Fitamin D y dydd.

Cafodd adolygiad o’r dystiolaeth ei gynnal gan y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN).

Mae eu hargymhellion wedi’u derbyn yn llawn gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Llywodraeth Lafur, Rebecca Evans.

Cyn hyn, roedd y canllawiau’n berthnasol i fenywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron, pobol 65 oed a hŷn a phobol nad ydyn nhw’n cael llawer o haul.

Y cyngor i blant o dan flwydd oed yw cael 8.5 i 10 microgram o Fitamin D bob dydd.

‘Digon o haul’ 

Mewn datganiad, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton: “Mae Fitamin D yn bwysig iawn i’n cadw ni’n iach. Mae’n helpu i reoli lefelau calsiwm a ffosffad yn ein cyrff, sy’n angenrheidiol i gadw ein hesgyrn, ein dannedd a’n cyhyrau yn iach.

“Cael digon o haul, a sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny mewn modd cyfrifol, yw’r brif ffordd y gallwn ni gael Fitamin D. Ond, mae’r fitamin hwn i’w gael hefyd mewn rhai bwydydd fel pysgod olewog ac wyau”.

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: “Byddwn ni nawr yn gweithredu ar ganfyddiadau’r adroddiad. Byddwn ni’n codi ymwybyddiaeth o’r argymhelliad dyddiol ac yn cefnogi pobl i gyrraedd y lefel hon fel rhan o’n hagwedd ehangach at iechyd a llesiant”.