Dr Frank Atherton Llun: Llywodraeth Cymru
Mae Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru – a fydd yn gyfrifol am ddarparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar faterion iechyd – wedi cael ei benodi.

Dr Frank Atherton, o Swydd Gaerhirfryn yn wreiddiol, fydd yn cymryd yr awenau gan Dr Ruth Hussey, yn dilyn ei hymddeoliad.

Mae ei rôl hefyd yn cynnwys arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru fel Cyfarwyddwr Meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Bydd yn chwarae rôl allweddol yn y meysydd rheoleiddio, addysg a hyfforddiant a safonau a pherfformiad meddygol y Gwasanaeth Iechyd.

Mae ar hyn o bryd yn gweithio fel y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn Nova Scotia, Canada a bu’n Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Swydd Gaerhirfryn rhwng 2002 a 2012.

“Y genedl yn wynebu heriau mawr”

Dywedodd Frank Atherton ei fod yn “bleser” i “arwain yr ymdrechion i ddatblygu Cymru iachach”.

“Mae’r genedl yn wynebu heriau mawr a chyfleoedd cyffrous i wella iechyd,” meddai.

Rhwng 2008 a 2012, bu hefyd yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, fod gan Frank Atherton “gyfoeth o brofiad” yn y maes – yn y DU ac yn rhyngwladol.

“Rwy’n falch iawn o gael rhywun o safon Frank i ymuno â ni yng Nghymru wrth i ni ymdrechu i barhau i wella iechyd a lles y genedl,” meddai.

Mae disgwyl iddo ddechrau yn ei swydd newydd yn ddiweddarach yn yr haf.