Bethan Jenkins yn pryderu (llun: Plaid Cymru)
Mae tri Bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi cydnabod toriadau o £350,000 mewn gwario ar wasanaethau iechyd meddwl cymunedol i bobol ifanc yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Mae ffigurau a gafodd eu datgelu ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru yn dangos bod gwario wedi cwympo gan Fyrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf .

Fe wariodd y byrddau iechyd cyfanswm o £2,637,000 yn 2011-12 gan gwympo i £2,280,000 yn £2014-15. Mae niferoedd y staff wedi cwympo o 39 i 32 ar draws y tri bwrdd.

‘Annerbyniol’

“Mae gostyngiad mewn gwario a staffio dros gyfnod o dair blynedd yn hollol annerbyniol,” meddai AC Plaid Cymru yn Nghanol De Cymru, Bethan Jenkins, sydd wedi dioddef o afiechyd meddwl ei hun.

“Roedd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a basiwyd gan y Cynulliad diwethaf yn 2010 i fod i sicrhau na fyddai modd torri gwario ar wasanaethau o’r fath. Yn amlwg, mae’r ffigyrau gan dri bwrdd iechyd mawr yn dangos nad yw hyn yn digwydd.”

“Fy mhryder i yw bod plant a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu siomi gan Lywodraeth Lafur Cymru,” meddai Bethan Jenkins.

“Rwy’n pryderu y gallai diffyg cefnogaeth arwain at fwy o risg i ddiogelwch pobol ifanc os na chân nhw eu trin.”